Gwibio i'r prif gynnwys

Wedi derbyn eich graddau terfynol lefel A neu raddau lefel 3 wedi’u cadarnhau gan y ganolfan alwedigaethol?

Eisiau astudio’n agosach i’ch cartref? Ni fu amser gwell i ddewis Y Coleg Merthyr Tudful ar gyfer y cam nesaf ar eich taith addysgol!

Os ydych newydd orffen eich lefel A neu gymhwyster galwedigaethol lefel 3, eisiau cryfhau eich sgiliau neu gymwysterau neu’n chwilio am newid yn eich gyrfa, rydym yn cynnig cyfle i gael cymhwyster o safon prifysgol yn eich coleg lleol – gan roi help i chi aros yn agos at adref ac addasu eich astudiaethau o gwmpas eich gwaith, teulu ac ymrwymiadau eraill.

Gydag amrywiaeth eang o gyrsiau – o Gelf a Dylunio i Fusnes, Cyfrifyddiaeth, Cyfrifiadura, Seicoleg, Gofal ac Astudiaethau Plentyndod, mae gennym ni rywbeth at ddant pawb. Ar ben hynny, nod ein dosbarthiadau bach, staff profiadol o safon uchel a chymorth rhagorol yw sicrhau y bydd pob dysgwr yn cael y profiad dysgu gorau oll er mwyn iddynt allu gwireddu eu potensial eithaf.

Mae ein canlyniadau yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn tystio i hyn gyda thros 81% o ddysgwyr yn datgan eu bod yn fodlon gyda’u profiad ar eu cwrs addysg uwch yn ystod 2020-2021, er gwaetha’r heriau a gafwyd gyda Covid.

Mae gennym gysylltiadau partneriaeth cryf gyda Phrifysgol De Cymru, gan roi cyfle i bob dysgwr ddefnyddio adnoddau dysgu a chyfleusterau’r brifysgol gyda’r dewis o fynd ymlaen i drydedd flwyddyn atodol i gael Gradd Baglor, os ydynt yn dymuno. Yn ogystal, mae’r coleg hefyd yn cynnig y Radd Fusnes BA Anrh Atodol a’r Radd Ymarfer Celf BA Anrh Atodol, gan roi’r dewis i ddysgwyr i gwblhau’r rhaglen radd lawn dair blynedd ac ennill Gradd BA Anrh.

Gwnaeth y dysgwr Cameron Sullivan gwblhau ei Radd BA Anrh mewn Astudiaethau Busnes ym mis Mehefin eleni. Meddai Cameron “Wedi bod yn y coleg am bedair blynedd, yn fy mhrofiad i roedd yr amgylchedd dysgu yn un dymunol a chroesawgar. Mae’r tiwtoriaid yn gefnogol ac yn galonogol, gan ychwanegu gwir werth at y profiad o ddysgu ble ‘does dim byd yn ormod o drafferth iddyn nhw. Roedd y cwrs yn heriol ond yn hynod ddifyr gan hwyluso fy nysgu ac ychwanegu at y profiadau oedd eisoes gen i. Rhwng popeth rwyf wedi mwynhau bod yn fyfyriwr yn y coleg, gan ennill y cymhwyster hwn a meithrin perthnasoedd newydd gyda myfyrwyr a thiwtoriaid fel ei gilydd. Yn ogystal â hyn, mae cyfleusterau’r coleg a’r gwasanaethau a ddarperir gan y staff cymorth yn rhagorol. Byddwn yn argymell i unrhyw un gymryd cwrs yn y coleg oherwydd ei allu i annog cyrhaeddiad o’r safon uchaf ac ar yr un pryd yn creu amgylchedd diogel i ddysgu a datblygu.”

 

Gydag amrywiaeth o grantiau, benthyciadau a bwrsarïau ar gael i helpu gyda ffioedd cwrs a chostau byw, gallai astudio hefyd gostio llai na fyddech yn tybio.

Mae gwneud cais yn hawdd, gallwch fynd ar-lein ar ein tudalen AU benodedig ar ein Gwefan:

https://www.merthyr.ac.uk/en/higher-education/

neu dewch i’n sesiynau gwybodaeth i siarad gydag un o’n tiwtoriaid Addysg Uwch penodedig ar ddydd Mawrth neu ddydd Mercher Awst 10 neu 11. I archebu un o’r sesiynau hyn, cliciwch ar y ddolen yma: https://bit.ly/2Vvz8y8.

 

Neu gallwch gysylltu ag un o’n cynghorwyr derbyniadau arbenigol ar 0800 1693825.

Gadewch i’r Coleg Merthyr Tudful eich helpu i gymryd y cam nesaf hwnnw tuag at uchelgais eich gyrfa yn y dyfodol.

 

Edrychwn ymlaen at gael siarad â chi’n fuan neu at eich gweld yn y sesiynau hyn.

 

Y Tîm Derbyniadau

 

 

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite