Mae'r cymhwyster hwn yn darparu dealltwriaeth fanwl o'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen wrth weithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn amgylcheddau ysgol a choleg. Mae'n ymdrin â phob agwedd ar gymorth arbenigol gan gynnwys cynllunio, cyflwyno ac adolygu strategaethau asesu i gefnogi dysgu ochr yn ochr â'r athro; cefnogaeth ddwyieithog; cefnogaeth anghenion arbennig; datblygiad personol ac ymarfer myfyriol.
Dylai ymgeiswyr fod dros 16 oed a meddu ar y sgiliau academaidd i weithio'n annibynnol ar Lefel 3, a meddu ar gymhwyster Lefel 2 perthnasol neu gymhwyster cyfatebol, gyda phrofiad blaenorol o weithio (naill ai'n gyflogedig neu'n wirfoddol) mewn amgylchedd ysgol.
Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen wrth gefnogi addysgu a dysgu mewn ysgolion cynradd, uwchradd neu arbennig. Mae'n ymdrin â phob agwedd ar gymorth arbenigol gan gynnwys cynllunio; cyflawni ac adolygu strategaethau asesu i gefnogi dysgu ochr yn ochr â'r athro; cefnogaeth ddwyieithog; cefnogaeth anghenion arbennig; datblygiad personol ac ymarfer myfyriol.
Mae'r asesiad trwy dasgau ar sail aseiniadau ac arsylwadau lleoliad.
Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau i chi weithio mewn amrywiaeth o swyddi heb oruchwyliaeth sy'n cefnogi dysgu plant a phobl ifanc mewn ysgolion neu golegau. Mae'r rolau y bydd y cymhwyster hwn yn eich paratoi ar eu cyfer yn cynnwys: • Cynorthwy-ydd Addysgu • Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu • Cynorthwyydd Anghenion Arbennig.
01 Awst 2025 - 31 Gorffennaf 2026