Yng Ngholeg Merthyr Tudful, rydym yn dysgu'r cymhwyster Mathemateg TGAU ar lefel Canolradd. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle i chi gyflawni gradd C o leiaf, ac os byddwch yn gweithio'n galed, efallai gradd B. Mae'r cwrs yn cynnwys 2 awr o ddysgu yr wythnos, gyda fideos ar-lein i helpu sicrhau eich bod yn deall y cynnwys a drafodir yn llawn.
Fel arfer, mae angen gradd D flaenorol mewn Mathemateg TGAU. Fodd bynnag, o bryd i’w gilydd, byddwn yn derbyn myfyrwyr gyda proffiliau gradd isel ar ôl trafodaeth gyda'r tiwtor cwrs.
Rydym yn dilyn cynlluniau dylunio cwrs Mathemateg Canolradd WJEC. Mae’r pynciau a drafodir yn cynnwys Algebra, Geometry, Ystadegau, Siâp a Gofod.
Bydd y cwrs yn cael ei asesu drwy ddwy arholiad ffurfiol yn nhymor yr haf. Bydd Uned 1 yn arholiad heb gyfrifiannell ac Uned 2 yn arholiad gyda chyfrifiannell. Bydd asesu anffurfiol rheolaidd hefyd yn digwydd trwy gydol y flwyddyn.
Bydd gradd C mewn Mathemateg yn agor amrywiaeth o opsiynau i astudio cyrsiau o fewn y coleg yn ogystal â chyfleoedd gyrfa gwell yn y dyfodol.
01 Awst 2025 - 31 Gorffennaf 2026