Bydd y cwrs hwn yn trafod y gwahanol ddulliau ac arferion gorau sy'n unol â gofynion busnes a thechnegol ar gyfer modelu, delweddu a dadansoddi data gyda ‘Power BI’. Bydd y cwrs hefyd yn dangos sut i gyrchu a phrosesu data o ystod o ffynonellau data, gan gynnwys data perthynol ac anberthynol. Bydd y cwrs hwn hefyd yn archwilio sut i weithredu safonau a pholisïau diogelwch priodol ar draws y sbectrwm ‘Power BI’ gan gynnwys setiau data a grwpiau. Bydd y cwrs hefyd yn trafod sut i reoli a defnyddio adroddiadau a dangosfyrddau ar gyfer rhannu a dosbarthu cynnwys.
Dim
Cysylltu â Ffynonellau Data Mewnforio data o Excel, CSV, a chronfeydd data perthynol. Cyfuno sawl ffynhonnell data. Defnyddio Power Query i lanhau a thrawsnewid data.
Paratoi a Modelu Data Creu a rheoli modelau data. Sefydlu perthnasau rhwng tablau. Defnyddio DAX (Mynegiadau Dadansoddi Data) ar gyfer colofnau cyfrifiadol, mesurau, a dangosyddion perfformiad allweddol (KPI). Deall arferion gorau ar gyfer modelu data. Delweddu Data Adeiladu dangosfyrddau a riportau rhyngweithiol. Defnyddio siartiau, graffiau, awgrymiadau, nodau tudalen, a phwyslais ar egwyddorion cynllunio. Cymhwyso dadansoddiad gweledol i ddatgelu mewnwelediadau.
Rhannu a Chydweithio Cyhoeddi adroddiadau i’r Gwasanaeth Power BI. Rhannu dangosfyrddau gyda rhanddeiliaid. Dysgu arferion gorau ar gyfer cyflwyno a chynnal adroddiadau.
Cyflwyniad i DAX Dysgu hanfodion DAX ar gyfer creu cyfrifiadau deinamig. Defnyddio DAX ar gyfer deallusrwydd amser a monitro dangosyddion perfformiad allweddol (KPI).
Arholiad 100 munud ar gyfrifiadur
· Dadansoddwr Data · Dadansoddwr Cudd-wybodaeth Busnes · Dadansoddwr Adrodd · Arbenigwr Delweddu Data
01 Awst 2025 - 31 Gorffennaf 2026