Mae gan y Celfyddydau Perfformio a Drama amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgwyr gan gynnwys ymweliadau theatr, gweithdai ymarferwyr, cysylltiadau agos â Theatr y Sherman a Sefydliad y Celfyddydau Barcelona. Mae'r adran wedi hen ennill ei phlu gyda chyfraddau llwyddiant o 100% ym mhob maes ac mae dysgwyr yn symud ymlaen i rai o'r rhaglenni galwedigaethol gorau yn y wlad gan gynnwys Ysgol Actio Guildford ac RADA.
•Cymhwyster Lefel 2 yn y celfyddydau perfformio. •Cyfwerth â phedair gradd C mewn TGAU (i gynnwys un pwnc sy'n profi'r defnydd o Saesneg). •Profiad bywyd a chyflogaeth (ar gyfer dysgwyr aeddfed yn unig).
Ar y cwrs hwn byddwch yn astudio: Techneg Actio, techneg Lleisiol, Techneg Symud Cyfoes, Perfformiad Wedi'i Sgriptio, Perfformiad Theatr Gerddorol, Dyfeisio, Paratoi ar gyfer Clyweliadau.
Seiliedig ar waith cwrs, gan gynnwys Prosiect Mawr Terfynol
Mae llawer o fyfyrwyr yn gwneud cais i leoedd yn y brifysgol ac yn cael cynnig lleoedd iddynt astudio cyrsiau lefel uwch mewn astudiaethau theatr a drama neu maent yn symud ymlaen i yrfa yn y celfyddydau perfformio. Dyma'r cwrs delfrydol i'r rhai sy'n dymuno symud ymlaen i ysgolion Drama galwedigaethol fel CBCDC ac RADA
01 Awst 2025 - 31 Gorffennaf 2026