Mae Drama Safon Uwch yn eich galluogi i ddatblygu ystod gyffrous a helaeth o sgiliau perfformio creadigol a thechnegol a fydd yn ehangu eich profiad a'ch dychymyg. Mae'r adran wedi hen ennill ei phlu gyda chyfradd pasio o 100% yn UG ac A2.
5 TGAU graddau A* i C gan gynnwys Saesneg Iaith. Gofynnir i chi fynychu clyweliad fel rhan o'r gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Ar y cwrs hwn byddwch yn astudio arferion gwaith gwahanol Gwmnïau Theatr ac Ymarferwyr Theatr. Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon, byddwch yn creu ac yn datblygu eich gwaith perfformio eich hun yn seiliedig ar ailgyflwyno darn. Byddwch hefyd yn astudio ac yn perfformio darnau testun.
Perfformiad a phapur ysgrifenedig.
Mae llawer o fyfyrwyr yn gwneud cais i leoedd yn y brifysgol ac yn cael cynnig lleoedd iddynt astudio cyrsiau lefel uwch mewn astudiaethau theatr a drama neu maent yn symud ymlaen i yrfa yn y celfyddydau perfformio.
01 Awst 2025 - 31 Gorffennaf 2026