Yr IMI yw'r corff proffesiynol ar gyfer pobl sy'n cael eu cyflogi neu sy'n chwilio am waith yn y diwydiant moduron. Hefyd yr IMI yw prif gorff dyfarnu ar gyfer y diwydiant manwerthu moduron.
Tri TGAU gradd C neu'n uwch mewn Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth neu gymhwyster Cerbydau Modur lefel 1 os oes modd.
Mae'r cyrsiau hyn yn gallu darparu'r ystod ehangaf o wybodaeth dechnegol, sy'n angenrheidiol er mwyn dod yn dechnegydd cerbydau modur medrus, prif dechnegydd neu ganiatáu dilyniant i addysg uwch. Mae’r cymhwyster yn addas ar gyfer pob lefel o ymgeiswyr o Lefel Mynediad hyd at gyrsiau technegwyr Lefel 3.
Cyfuniad o asesiadau allanol (arholiadau) a'u gosod yn allanol a'u marcio'n fewnol.
I rai dysgwyr gallai'r cymhwyster hwn eu paratoi ar gyfer dilyniant i ddysgu a hyfforddiant pellach. I eraill, gallai'r cymhwyster hwn hefyd roi cydnabyddiaeth ddefnyddiol i'w sgiliau a'u gwybodaeth ymarferol, i gynorthwyo eu cyfleoedd gyrfa.
01 Awst 2025 - 31 Gorffennaf 2026