Bydd y gallu i siarad Cymraeg yn agor byd newydd o ddiwylliant Cymru i chi! Gyda dros 582,000 o siaradwyr Cymraeg a degau o filoedd o bobl yn dysgu, mae gan y Gymraeg ei diwylliant unigryw ei hun. Mae Lefel A Cymraeg ail iaith hefyd yn gymhwyster uchel ei barch a derbyniol gan holl brifysgolion y DU gan ei fod yn dangos eich bod wedi dysgu iaith arall i lefel eithriadol o uchel.
5 TGAU graddau A* i C gan gynnwys gradd C Cymraeg neu uwch mewn Saesneg Iaith ynghyd â gradd B mewn TGAU cwrs llawn Cymraeg neu radd A mewn Cymraeg cwrs byr.
Byddwch yn astudio'r ffilm Patagonia, gyda Matthew Rhys, Nia Roberts a Duffy! Cewch eich asesu mewn grwpiau o 2 neu 3 myfyriwr ar eich ymateb i'r ffilm. Byddwch hefyd yn cael eich asesu'n unigol ar gynnwys eich portffolio ysgrifenedig. Byddwch yn cynhyrchu pecyn o dri darn ysgrifenedig ar un o'r canlynol. • ardal benodol o Gymru • mater cymdeithasol • mater diwylliannol • mater galwedigaethol • pwnc hanesyddol • mater gwleidyddol A2 Byddwch yn astudio'r ddrama gyfoes 'Crash' gan Sera Moore Wiiliams. Byddwch unwaith eto'n cael eich asesu mewn grwpiau o 2 neu 3 myfyriwr ar eich ymateb i'r ddrama a'ch gwybodaeth am iaith a diwylliant Cymru. Byddwch hefyd yn cael eich asesu'n unigol ar eich ymateb i gyfryngau eraill rydych wedi'u hastudio.
Lefel A – Blwyddyn 1 Uned 1 Arholiad llafar (15%). Uned 2 (10%) Portffolio ysgrifenedig / gwaith cwrs. Une
Drwy ddewis astudio Lefel A Cymraeg ail iaith byddwch yn gallu ehangu'r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael i chi. Mae galw mawr am siaradwyr Cymraeg rhugl mewn gyrfaoedd megis: • Y cyfryngau a'r celfyddydau perfformio • Newyddiaduraeth • Llywodraeth Cymru • Addysgu • Llywodraeth Leol • Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol • Meddygaeth • Y Gyfraith • Cysylltiadau Cyhoeddus • Hysbysebu • Twristiaeth
01 Awst 2025 - 31 Gorffennaf 2026