Mae'r cwrs hwn yn darparu ystod eang o unedau i ddysgwyr megis systemau technoleg, rhaglennu, seiberddiogelwch, datblygu gemau, datblygu gwefannau, rhyngrwyd o bethau, cyfryngau cymdeithasol a dylunio apiau symudol. Mae'r cwrs hwn yn cynnig ystod eang o sgiliau ymarferol ac mae hefyd yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu gwybodaeth sylfaenol i lwyddo yn y diwydiant digidol. Bydd dysgwyr hefyd yn cael cyfle i gael lleoliad gwaith a mynediad i raglen Cyber College Cymru lle bydd gweithdai seibr wythnosol yn cael eu cynnal gyda phartneriaid yn y diwydiant.
5 TGAU gradd C neu uwch, neu gyfwerth. Hefyd diddordeb mewn Cyfrifiadura, Graffeg, Animeiddio, Rhaglennu Gwe a Seiberddiogelwch.
Systemau Technoleg – yma byddwch yn dysgu popeth am galedwedd technoleg a meddalwedd, rhwydweithiau, DA, technoleg sy'n dod i'r amlwg, dyfeisiau digidol, cyfrifiadura cwmwl, systemau gweithredu. Datblygu Gwe – yma byddwch yn datblygu a chodio gwefan symudol/bwrdd gwaith. Byddwch hefyd yn creu eich graffeg eich hun. Rhaglennu – yma byddwch yn dysgu sut i raglennu a datblygu rhaglen sgorio twrnament. Cyfryngau Cymdeithasol mewn Busnes – yma byddwch yn dysgu sut mae busnesau'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a byddwch yn dangos hyn mewn senario byw. Creu Systemau i Reoli Gwybodaeth – byddwch yn creu ac yn profi system technoleg busnes byw. Datblygu Apps Symudol – byddwch yn cynllunio ac yn datblygu ap symudol gan ddefnyddio stiwdio Android
Gwaith cwrs ac asesiad ffurfiol
Mae'r cwrs hwn yn darparu ystod eang o lwybrau dilyniant i brifysgol, cyflogaeth neu brentisiaethau mewn arbenigedd digidol a ddewiswyd.
01 Awst 2025 - 31 Gorffennaf 2026