Nod y cwrs yw datblygu sgiliau sy'n ymwneud ag Annibyniaeth, Cyflogadwyedd, Cymuned ac Iechyd a Lles, gyda'r holl feysydd hyn yn ymwneud â phrofiadau bywyd go iawn. Drwy gydol y cwrs, bydd y dysgwyr yn trafod eu llwybr dilyniant unigol gyda thiwtor eu cwrs. Gall hyn gynnwys datblygu sgiliau byw'n annibynnol ymhellach, symud ymlaen i'r cwrs Datblygu Sgiliau, gwirfoddoli neu gyflogaeth â chymorth. Mae llwybrau dilynian
Yn seiliedig ar gyfweliad
Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn profiad gwaith ac yn cael mynediad at ystod o gyfleusterau cymunedol er mwyn cynyddu eu sgiliau. Mae'r cwrs hefyd yn cynnwys sesiynau mewn Chwaraeon, Paentio ac Addurno, a Chelfyddydau Perfformio. Mae rhaglen y dysgwr yn llwybr heb ei achredu, ac yn darged sy'n seiliedig ar gynnydd tuag at ddyheadau dysgwyr unigol.
Yn seiliedig ar gyfweliad
Ar ôl cwblhau'r cwrs bydd dysgwyr wedi datblygu eu sgiliau o amgylch y pedair colofn ddysgu, gan alluogi dilyniant tuag at eu cyrchfan hirdymor, efallai y bydd rhai dysgwyr yn symud ymlaen i Astudiaethau Galwedigaethol Llwybr 3, neu'r Rhaglen Interniaeth â Chymorth, fel arall efallai y bydd rhai dysgwyr am symud ymlaen i gyflogaeth.
01 Awst 2025 - 31 Gorffennaf 2026