Bydd y cwrs hwn yn sylfaen gadarn o wybodaeth, sgiliau, gwerthoedd ac egwyddorion i alluogi dysgwyr i deimlo'n hyderus a chymwys yn eu llwybr gyrfa iechyd a gofal cymdeithasol dewisol. Yn ogystal, bydd dysgwyr yn meithrin sgiliau ymchwil hanfodol, y gallu i ddehongli deddfwriaeth a damcaniaethau ac yn cymhwyso'r rhain i ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol. Lluniwyd y cwrs hwn ar gyfer pobl sy'n dymuno symud ymlaen i yrfa broffesiynol ym maes iechyd a chymdeithasol; megis nyrsio, proffesiynau gofal perthynol i iechyd, gwaith cymdeithasol neu reoli gofal iechyd. Caiff y cwrs hwn ei gynnal mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru
Bydd ymgeiswyr dan 21 oed angen cymhwyster lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol. Gall ymgeiswyr dros 21 oed gael eu derbyn heb gymwysterau ond bydd gofyn iddynt ddangos parodrwydd i astudio ar lefel 4. Bydd yr holl gynigion yn destun cyfweliad, asesiad ysgrifenedig a geirda boddhaol.
Mae'r modiwlau'n cynnwys • Sgiliau astudio • Ymchwilio i iechyd a lles • Y gyfraith, moeseg a pholisi • Ymarfer Proffesiynol • Iechyd a Chlefyd Dynol
Mae amrywiaeth o dechnegau asesu drwy gydol y cwrs gan gynnwys, asesiadau ysgrifenedig, gwaith poster, arholiadau a chyflwyniadau
Byddwch yn gallu symud ymlaen i'r Radd Anrhydedd ym Mhrifysgol De Cymru
01 Awst 2025 - 31 Gorffennaf 2026