Mae'r cymhwyster yn rhoi cyflwyniad trylwyr i'r egwyddorion, y gwerthoedd a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag oedolion, gan astudio materion cyfredol mewn perthynas ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
O leiaf 4 TGAU yn A*-D gan gynnwys gradd C mewn Saesneg iaith a/neu C mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth a chyfweliad ffurfiol.
Mae cynnwys y cymhwyster hwn yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o: • yr egwyddorion a'r gwerthoedd craidd sy'n sail i arferion iechyd a gofal cymdeithasol • ffyrdd o weithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol • arfer effeithiol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol • llwybrau dilyniant i astudio pellach neu gyflogaeth o fewn diogelu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Fe'i hasesir drwy gyfres o dasgau a asesir yn fewnol ac arholiadau ysgrifenedig wedi'u gosod a'u marcio'n allanol. Fel rhan o'u rhaglen ddysgu, bydd dysgwyr yn profi o leiaf 10 diwrnod o ymgysylltu â'r sector sy'n cynnwys o leiaf 5 diwrnod o leoliad gwait
Mae'r cwrs yn cefnogi, ond nid yw'n gwarantu, dilyniant i gymwysterau galwedigaethol neu academaidd lefel 3 mwy arbenigol.
01 Awst 2025 - 31 Gorffennaf 2026