Mae Diploma Adeiladu Lefel 1 City &Guilds 6219-07 yn rhaglen flwyddyn i ddysgwyr sy'n dymuno ymuno â'r diwydiant adeiladu.
Asesiadau gweithdy ymarferol a phortffolio o dystiolaeth
Byddwch yn ennill profiad o'r gwahanol sgiliau mewn amrywiaeth o lwybrau adeiladu gan gynnwys gosod brics, gwaith coed a gwaith saer, paentio ac addurno a phlastru. Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, cewch gyfle i symud ymlaen i gymhwyster Lefel 2, prentisiaeth neu hyfforddiant pellach yn eich dewis fasnach adeiladu.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Bydd gofyn i chi gwblhau cyfweliad gydag un o'n tiwtoriaid masnach adeiladu. Yn ystod y cyfweliad, bydd angen i chi ddangos diddordeb mewn dysgu mwy am adeiladu gyda'r bwriad o symud ymlaen i hyfforddiant neu waith yn y diwydiant.
Gallech symud ymlaen i astudio Diploma Sylfaen City &guilds L2 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig. Fel arall, gallech symud ymlaen i hyfforddiant prentisiaeth neu gyflogaeth yn y diwydiant adeiladu.
01 Awst 2025 - 31 Gorffennaf 2026