Mae ein cyrsiau Lefel 1 yn fan cychwyn perffaith i unrhyw un sydd am archwilio hanfodion nifer o bynciau amrywiol a ddarparwn ar Lefel 2. P'un a ydych chi'n bwriadu dilyn astudiaethau pellach neu ddechrau eich gyrfa, mae ein rhaglenni'n darparu'r wybodaeth a'r sgiliau hanfodol i'ch gosod ar y llwybr i lwyddiant a dod i arfer ag astudio eto. Ymunwch â ni a chymryd y cam cyntaf tuag at lwybr gyrfa gwerth chweil sy'n cynnwys cymysgedd o weithgareddau ymarferol a datblygu sgiliau. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig y llwybrau canlynol: • Busnes, Twristiaeth, Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol, ond dylai fod gan ymgeiswyr sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol.
Nifer o unedau craidd gan gynnwys sgiliau sefydliadol, sgiliau ymchwil, gweithio gydag eraill a chynllunio dilyniant. Ochr yn ochr â'r rhain, byddwch hefyd yn cwblhau unedau yn eich dewis bynciau llwybr a llythrennedd a rhifedd
Bydd cwblhau'r cwrs Astudiaethau Galwedigaethol Lefel 1 yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i rai rhaglenni Lefel 2 yn y coleg gan gynnwys Busnes, TG, Teithio a Thwristiaeth, Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus, Harddwch a Chelf.
01 Awst 2025 - 31 Gorffennaf 2026