Eisiau teithio'r byd a bod yn rhan o ddiwydiant cyffrous bywiog? Teithio a Thwristiaeth yw un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yn y DU a thramor, gyda'r diwydiant hwn yn cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous a boddhaus i chi.
Disgwylir i ymgeiswyr feddu ar o leiaf 5 tgau gradd A*-C gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg neu gyfwerth.
Wrth astudio Lefel 3 blwyddyn 1 Teithio a Thwristiaeth yn y coleg, byddwch yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau fel y Byd Teithio a Thwristiaeth, Cyrchfannau Byd-eang, Mentrau Teithio a Thwristiaeth, Profiad Cwsmeriaid ac Atyniadau Ymwelwyr.
Arholiadau a gwaith cwrs sydd eu hangen
Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i Radd Sylfaen mewn Busnes y coleg neu radd sy'n gysylltiedig â theithio mewn sefydliad Addysg Uwch arall neu'n uniongyrchol i gyflogaeth yn y diwydiant teithio, lletygarwch neu hamdden.
04 Medi 2023 - 31 Gorffennaf 2024