Eisiau teithio'r byd a bod yn rhan o ddiwydiant cyffrous bywiog? Teithio a Thwristiaeth yw un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yn y DU a thramor, gyda'r diwydiant hwn yn cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous a boddhaus i chi.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol, ond dylai fod gan ymgeiswyr sgiliau Llythrennedd a Rhifedd sylfaenol.
Wrth astudio Teithio a Thwristiaeth Lefel 2 yn y coleg, byddwch yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau fel Amgylcheddau Busnes Teithio a Thwristiaeth, Ymchwilio i Sector Teithio a Thwristiaeth y DU a Chyrchfannau a Gwasanaeth/Profiad Cwsmeriaid.
Arholiadau a gwaith cwrs sydd eu hangen
Bydd cwblhau'r Lefel 2 yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i Ddiploma Lefel 3 BTEC neu'n uniongyrchol i gyflogaeth.
01 Medi 2022 - 31 Gorffennaf 2023