Bydd Celf a Dylunio Lefel 3 yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau newydd mewn amrywiaeth o lwybrau megis dylunio graffig, celfyddydau seramig, ffotograffiaeth, gwneud printiau, a lluniadu traddodiadol. Cewch gyfle i arddangos eich gwaith celf mewn arddangosfeydd ac ar-lein, ynghyd ag ymweliadau addysgol ag orielau mawr yn y DU a thramor.
4 Gradd C TGAU neu uwch gan gynnwys Tgau Celf neu UAL/BTEC Lefel 2 mewn Celf a Dylunio. Gofynnir i chi ddod ag enghreifftiau o'ch gwaith celf i'ch cyfweliad.
Ar y cwrs hwn byddwch yn astudio: Celfyddyd gain, Cerameg, Dylunio Graffig, Ffotograffiaeth, Gwneud Printiau, Sgiliau Stiwdio.
Gwaith cwrs yn seiliedig ar Brosiect Mawr Terfynol.
Bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i'r radd sylfaen Ymarfer Celf neu Ffotograffiaeth yn y coleg, gradd sy'n gysylltiedig â chelf mewn prifysgol arall, neu'n uniongyrchol i gyflogaeth.
01 Awst 2025 - 31 Gorffennaf 2026