Rydym yn cynnig cymorth penodol i ddysgwyr ifanc sydd yng ngofal awdurdod lleol, sydd wedi bod yn y system ofal o’r blaen, sy’n byw’n annibynnol, sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teulu neu sydd â chyfrifoldebau gofal gartref. Mae’n bosibl y bydd dysgwyr gofal profiadol yn gymwys i hepgor talu ffioedd a derbyn bwrsarïau, a fydd yn daladwy yn ystod tymor yr hydref, y gwanwyn a’r haf.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Judith Mulry neu Caroline Donaldson:
j.mulry@merthyr.ac.uk 01685 726198
c.donaldson@merthyr.ac.uk 01685 726016