Mae’r Gwasanaeth Cwnsela ar gael i’ch helpu i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau personol neu emosiynol sy’n eich rhwystro rhag mwynhau eich profiad yn y coleg.
Mae ceisio cwnsela yn ymwneud â gwneud dewis cadarnhaol i chwilio am help drwy siarad â gwrandäwr sydd wedi’i hyfforddi’n broffesiynol ac sydd heb unrhyw swyddogaeth arall yn eich bywyd. Gwasanaeth cyfrinachol, rhad ac am ddim, yw hwn gyda’r nod o’ch helpu i osod strategaethau effeithiol mewn grym er mwyn meithrin mwy o ddyfalbarhad.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Theresa Cadd counselling@merthyr.ac.uk