Togetherall
Mae gan bob dysgwr yn y coleg fynediad at Togetherall, platfform cymorth cymheiriaid ar-lein.
Mae Togetherall yn cynnig cefnogaeth ddiogel, anhysbys, ar-lein 27/7, o fewn cymuned gefnogol, gan ddarparu gwybodaeth, adnoddau hunangymorth, a gweithwyr proffesiynol hyfforddedig ar-lein bob amser.
Cwnsela
Mae'r Gwasanaeth Cwnsela ar gael i'ch helpu i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau personol neu emosiynol sy'n amharu ar fwynhau eich profiad yn y coleg. Mae ceisio cwnsela yn golygu gwneud dewis cadarnhaol i ofyn am help trwy siarad â gwrandäwr hyfforddedig nad oes ganddo rôl arall yn eich bywyd. Mae hwn yn wasanaeth cyfrinachol am ddim sy'n ceisio eich helpu i roi strategaethau effeithiol ar waith i adeiladu mwy o wytnwch.
T_counselling@merthyr.ac.uk
Iechyd Meddwl a Lles
Mae cefnogi dysgwyr gyda'u hiechyd meddwl a'u lles yn flaenoriaeth i'r coleg. Ein nod yw grymuso dysgwyr a staff i fod yn ymwybodol o faterion sy'n ymwneud â'u lles a'u hiechyd meddwl eu hunain ac eraill, i roi camau ar waith i fynd i'r afael â nhw, ac i greu ethos coleg agored a chynhwysol sy'n cynnwys parch at faterion iechyd meddwl. Byddwn yn annog ac yn cefnogi dysgwyr i gymryd perchnogaeth o'u lles trwy ddarparu mynediad at gyrsiau lles ac adnoddau dysgu hunangyfeiriedig.