Chris yw Pennaeth Menter a Sgiliau yma yn y Coleg, gan ddefnyddio ei rhwydwaith a’i harbenigedd eang i helpu myfyrwyr ac alumni i ddechrau eu busnesau eu hunain. Mae Chris yn frwdfrydig iawn ynghylch entrepreneuriaeth ac mae’n cynnig cymorth 1-1 parhaol i fusnesau newydd sy’n dechrau.
Mae Chris hefyd yn cydgysylltu ceisiadau i Gystadlaethau Sgiliau’r DU a’r Byd, pan fydd dysgwyr yn gosod eu gwybodaeth, eu gallu technegol a’u sgiliau cyflogadwyedd yn erbyn eraill o Gymru, y DU a thu hwnt!
Os hoffech chi ddechrau eich busnes eich hun, archwilio syniadau menter, cymryd rhan mewn cystadleuaeth sgiliau neu ddarganfod os yw’ch adran yn ymwneud â phrosiectau – cysylltwch â Chris! c.bissex@merthyr.ac.uk
Mae Verity yma i gynnig arweiniad cyflogadwyedd a gyrfaoedd, gan ddangos amrywiaeth o gyfleoedd cynnydd. Mae pob llwybr gyrfa yn wahanol, felly mae cynnig cymorth unigol pwrpasol yn allweddol i sicrhau bod pob dysgwr yn cael gafael ar sgiliau a chyfleoedd. Mae’r cysylltiadau helaeth gyda chyflogwyr lleol, darparwyr prentisiaethau a phrifysgolion oll yn ychwanegu at helaethrwydd y cyfleoedd y gallwn gynnig. Os ydych angen help i gynllunio eich dyfodol, creu CV eithriadol, ysgrifennu llythyr eglurhaol, gwneud cais am swydd neu ymarfer ar gyfer cyfweliad- gall Verity helpu! v.jones@merthyr.ac.uk
Mae Hannah yn rhoi cymorth i bob agwedd o Fenter a Chyflogadwyedd- cydlynu digwyddiadau a chystadlaethau, cysylltu gyda chyflogwyr a phartneriaid lleol, a sicrhau bod staff a dysgwyr yn cael gafael ar y cyfleoedd diweddaraf.
Mae cystadlaethau sgiliau’n help i ysbrydoli pobl ifanc i fod yn uchelgeisiol wrth fynd ar drywydd eu nod ac yn help i ddatblygu CV eang ac amrywiol. Os hoffech wybod mwy am ddatblygu eich sgiliau- cysylltwch â Hannah! h.casey@merthyr.ac.uk