Tenis Bwrdd Cymru
Heddiw, mae Coleg Merthyr Tudful a Thenis Bwrdd Cymru, wedi llofnodi Cytundeb Partneriaeth Strategol i lansio Academi Tennis Bwrdd newydd sbon a Hyb Perfformiad Uchel yn y coleg.
Yn seiliedig ar gysyniad Tenis Bwrdd Cymru 'camp i bawb' Nod y bartneriaeth yw darparu rhaglen clwb cymunedol gynhwysol a chyfleuster hyfforddi penodol fydd ar gael i bawb, gan ddarparu llwybr dilyniant clir o ysgolion llawr gwlad a chlybiau lleol i berfformiad lefel uchel ar draws Merthyr Tudful a rhanbarth ehangach de Cymru.
Gyda sesiynau hyfforddi wythnosol, mae chwaraewyr o bob rhan o Dde Cymru yn gallu dod i'r coleg, cael hyfforddiant o'r radd flaenaf a datblygu eu sgiliau tennis bwrdd.
Fe wnaeth y chwaraewr lleol, Callum Evans, gynrychioli Tenis Bwrdd Cymru yn Senglau'r Dynion yng Ngemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham. Wrth sôn am y cyfle i hyfforddi yn yr academi newydd hon, meddai, "Mae cael y cyfleuster arbenigol hwn yn lleol wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau tennis bwrdd ymhellach. Rwy'n arbennig o hoff o'r ffaith bod gennym ein gofod hyfforddi ymroddedig ein hunain."
Simon Evans