Academi Pêl-rwyd
Mae'r tîm pêl rwyd yn rhan annatod o strwythur academi gyffredinol Coleg Merthyr.
Mae ein hacademi pêl-rwyd yn darparu cyfle i chwaraewyr ymroddedig a brwd ddatblygu eu sgiliau chwarae wrth gwblhau eu cymhwyster llawn amser, waeth beth yw eu rhaglen astudio. Ar raglen sy'n canolbwyntio ar chwaraewyr, bydd ein hathletwyr yn gwella fel unigolion ac fel chwaraewyr tîm wrth ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r gêm.
Mae ein rhaglen yn cynnig:
Cyfleoedd hyfforddi a chwarae gyda hyfforddwyr cymwys a phrofiadol.
Cymryd rhan mewn cynghreiriau chwaraeon a chystadlaethau cwpan AOC
Sesiynau Cryfder a Chyflyru
Cyfleoedd i ennill cymwysterau ychwanegol
Am fwy o wybodaeth am ein rhaglen cysylltwch â emma.christopher@merthyr.ac.uk