Yr Academi Bêl-droed
Mae gan y Coleg Merthyr Tudful raglen bêl-droed sydd wedi hen ennill ei blwyf ac mae wedi cofnodi llwyddiant a chyflawniadau gwych yn y gêm i ferched yn ogystal â gêm y dynion.
Mae'r tîm benywaidd wedi mwynhau llwyddiant ysgubol fel Pencampwyr 5 a 7 bob ochr yng Nghymru, a thrwy ennill Plât Coleg Prydeinig AOC yn 2016. Mae ein cyn-fyfyrwyr benywaidd yn cynnwys y chwaraewyr rhyngwladol Gemma Evans a Chloe Lloyd. Mae gan y coleg amrywiaeth o chwaraewyr sydd hefyd wedi cynrychioli Tîm Colegau Cymru yn ystod y degawd diwethaf.
Mae'r tîm gwrywaidd wedi ennill Cynghrair Colegau Cymru Categori 3 AOC yn eu dwy ymgyrch ddiwethaf, ac maen nhw hefyd wedi cael rhediadau a pherfformiadau cwpan ardderchog yng Nghwpan Knockout fawreddog AOC.
Cyfarwyddwr Academi (Pêl-droed)
d.jenkins1@merthyr.ac.uk
Dan y chwyddwydr
Mae dau athletwr rhagorol o'r coleg wedi eu dewis ar gyfer carfan Pêl-droed Colegau Cymru. Aeth Tye Duggan a Josh Jones i dreialon yn Aberystwyth, a buont yn llwyddiannus yn y broses ddethol.
Roedd y ddau chwaraewr yn cynrychioli Colegau Cymru yn erbyn Ysgolion Annibynnol Lloegr ym Mharc St Georges ar Ragfyr 14eg 2022. Mae hyn yn dipyn o gamp i'r ddau chwaraewr, ac mae bod yn rhan o'r garfan mewn dau dymor olynol yn dyst i'r cysondeb a'r safonau uchel y mae'r ddau yn eu gosod eu hunain. Mae Tye hefyd yn obeithiol o wneud carfan Ysgolion Cymru
wrth iddo fod yn gymwys i dîm dan 18, ac mae'r garfan yn mynd i gystadlu mewn cystadleuaeth hynod fawreddog yn Rhufain yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Dywedodd Tye:
"Roeddwn yn falch iawn o gael yr alwad a'r cyfle i gynrychioli Colegau Cymru y tymor hwn. Llynedd cefais brofiadau gwych yn chwarae yn erbyn timau gwych, a safon yr hyfforddi a'm cefnogi gyda fy mhêl-droed i’r clwb a’r coleg. Roedd yn wych hefyd gweld Josh yn cael ei alw i fyny eto, ac mae'n wych i'n coleg gael ambell wyneb yn y garfan. Ar nodyn personol, hoffwn ddiolch i David Haggett am roi ein henwau ymlaen, ac am yr holl help y mae wedi'i roi i mi'n bersonol ers i mi gyrraedd y coleg."
Mae gan y ddau chwaraewr gemau yn y flwyddyn newydd, ac yn mwynhau'r cyfle a'r her o wynebu pêl-droed rhyngwladol. Mae'r coleg yn ddiolchgar i reolwr Ysgolion Cymru Marc Lloyd-Williams a'i staff cefnogol am y profiadau a'r cyfleoedd maen nhw wedi eu rhoi i Josh a Tye.
Ychwanegodd David Haggett,
"Mae Josh a Tye wedi dangos agwedd wych. Maent yn arddangos moeseg gwaith uchel ym mhob sesiwn, ac yn cael eu hysgogi i gyrraedd eu potensial. Byddant yn elwa ar y cyfle hwn, a bydd y profiad hwn yn cynorthwyo eu datblygiad yn y dyfodol, ac rwy'n dymuno'n dda iddynt.”