Mae gan y coleg feithrinfa gyda lle i 60 o blant sydd wedi’i chofrestru’n llwyr ac sy’n cynnig gofal dydd o safon i fabanod a phlant o dri mis oed hyd at 11 oed. Mae’r feithrinfa’n cynnig amgylchedd hwyliog a diogel gyda staff wedi’u cymhwyso’n llwyr.
Rydym yn cynnig darpariaeth ar ôl yr ysgol o 3-15 - 6:00yh a chasglu plant o ysgolion Caedraw a’r Santes Fair. Gall plant hefyd gael eu gollwng gyda ni. Rydym hefyd yn cynnal clybiau gwyliau i blant 3 - 11 oed drwy gydol gwyliau’r ysgol.
Mae gennym drwydded i fod ar agor dydd llun i ddydd Gwener rhwng 8yb a 6yh. Mae’r feithrinfa ar agor drwy gydol y flwyddyn ac eithrio gwyliau banc (dyddiau Llun) ac mae’n cau rhwng Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Mae’r feithrinfa ar agor i fyfyrwyr sy’n mynychu’r coleg a hefyd i rieni ledled y gymuned ac i staff sy’n gweithio yn y coleg.
Nod Meithrinfa Yma Rydym yn Tyfu yw cynnig gwasanaeth gofal dydd fforddiadwy o safon uchel sy’n hyrwyddo ac yn annog datblygiad cyflawn pob plentyn unigol. Ein gobaith yw cynnig amgylchedd hapus, difyr i bob plentyn ac rydym yn annog pob rhiant i ymwneud yn frwd â ni.
Mae gan holl staff y feithrinfa gymwysterau gofal plant lefel 3 neu uwch ac maent yn darparu chwarae a phrofiadau addas i ysgogi’r plant yn emosiynol, yn ddeallusol, yn gorfforol, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Mae hyfforddi a datblygu staff yn hanfodol i sicrhau bod y gwasanaeth rydym yn cynnig o’r safon uchaf. Rydym yn cynnig cyfnod Ymgynefino am ein bod am i blant deimlo’n ddiogel, wedi’u hysgogi ac yn hapus yn y feithrinfa ac i deimlo’n ddiogel ac yn gyffyrddus gyda’r staff.
Am fanylion llawn am ein gwasanaethau cliciwch yma.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni:
Meithrinfa Yma Rydym yn Tyfu
Y Coleg Merthyr Tudful
Ynysfach
Merthyr Tudful
CF48 1AR
Ffôn: 01685 726116 neu e-bostiwch ni:
nursery@merthyr.ac.uk
Amseroedd Agor rhwng 8.00yb-6yh gyda lleoedd llawn amser a rhan amser ar gael
(Rydym yn derbyn Talebau Gofal Plant)