Os ydych yn awyddus i symud ymlaen i brifysgol, rydym yn cynnig rhaglen gymorth wedi’i haddasu i’ch helpu ar y ffordd. Mae’n cynnwys y canlynol:
o Diwrnodau cynllunio gyrfa
o Sesiynau holi ac ateb byw gyda Chydgysylltwyr UCAS
o Digwyddiadau gwybodaeth am wneud cais i Brifysgol i ddysgwyr a rhieni
o Mynd i Arddangosfa flynyddol UCAS
o Sesiynau cyngor a chanllawiau penodol wedi’u cynnal gan brifysgolion allweddol lleol, rhanbarthol ac o’r DU, e.e. cyllido myfyrwyr, y broses gwneud cais ac ati.
Am fwy o gyngor a gwybodaeth, cysylltwch â’n Cydgysylltwyr UCAS penodol:
Chris Lloyd: c.lloyd@merthyr.ac.uk
Bethan Williams: bwilliams1@merthyr.ac.uk