Yma yn y coleg rydym yn deall y gall y pontio rhwng ysgol a choleg, a gadael coleg, yn gallu bod braidd yn frawychus. Mae ein swyddog pontio penodol a’r tîm cymorth ehangach yma i helpu gydag unrhyw bryderon neu faterion sydd gennych.
Mae ein tîm ADY yn darparu cymorth i ddysgwyr, nid yn unig yn ystod eich astudiaethau gyda ni, ond hefyd yn ystod eich cyfnod pontio o'r ysgol i'r coleg. Gallwn gefnogi dysgwyr ag anableddau corfforol ac amrywiaeth o anawsterau dysgu a all gynnwys dyslecsia, dyspracsia, nam ar y synhwyrau, awtistiaeth, ac anghenion dysgu penodol eraill.
Mae aelodau o'n tîm ar gael i fynychu adolygiadau pontio ysgolion ac adolygiadau blynyddol statudol neu adolygiad Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Rydym yn cynnig teithiau personol o'r campws ac yn cydweithio ag ysgolion, rhieni, Gyrfa Cymru ac unrhyw un arall sy'n bwysig i chi. Rydym hefyd ar gael i weithio gyda chi cyn ac yn ystod cofrestru i greu cynllun cymorth sy'n darparu ar gyfer eich anghenion unigol.
Cysylltwch â e.evans1@merthyr.ac.uk am ragor o wybodaeth.