CADY - Rhian Francis: i oruchwylio’r Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol, asesu ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY), a phenderfynu ar y lefel addas o gymorth. Swyddogaeth CADY yw arwain a gyrru’r coleg yn ei flaen i fynd i’r afael â’i gyfrifoldebau o dan ALNET.
Swyddog Pontio a Chymorth ADY - Eleri Evans: cynnig cymorth i ddysgwyr gyda ADY sy’n pontio o ysgol i goleg, symud ymlaen o fewn y coleg yn ogystal â chynnig cymorth i ddysgwyr sy’n gadael y coleg.
Hyfforddwyr Dysgu - Sian Llewellyn; Sarina Vaughan; Jeremy Davies, Natsha Gracie, Jarrad Owens; Dianne Lee; Elizabeth Thomas; Gaynor Jayne; Julie Jones; Kirsty Norcliffe; Lisa Stonehewer
Mae’r Hyfforddwyr Dysgu ar gael i gynnal gweithdai a chynnig awgrymiadau a chynghorion i ddadansoddi aseiniadau, chwilio am wybodaeth a chyrraedd terfyn amser. Gall Hyfforddwyr Dysgu helpu gyda’r defnydd o dechnoleg gynorthwyol a gweithio fel rhan o ymagwedd lleoliad cyfan i wireddu holl botensial pob dysgwr. Mae hyfforddwyr dysgu hefyd ar gael i gynnig cymorth i grwpiau bach neu 1:1 yn y meysydd hyn.