Diweddariad pwysig am gyhoeddi Graddau wedi’u Pennu mewn Canolfannau
Mae Graddau amodol wedi’u Pennu mewn Canolfannau ar gyfer asesiadau AS/A2, TGAU a Lefel 2 Gofal Plant/Iechyd a Gofal a gyflawnwyd yr haf yma wedi cael eu e-bostio at bob dysgwr heddiw, dydd Llun 14 Mehefin. Bydd canlyniadau a gadarnhawyd ar gyfer AS/A2 a Thystysgrif Her Sgiliau yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Mawrth 10 Awst. Caiff canlyniadau TGAU a Lefel 2 Gofal Plant / Iechyd a Gofal Cymdeithasol eu cyhoeddi ar ddydd Iau 12 Awst. Hoffem eich gwahodd i’r coleg ar y diwrnodau hyn i ddathlu eich llwyddiannau gyda’ch cyd-ddysgwyr a’ch tiwtoriaid a byddwn yn cysylltu â chi’n fuan ynghylch y trefniadau ar gyfer y diwrnodau hyn.
Camau Nesaf
Rydym yma i roi cymorth i chi gyda’ch camau nesaf naill ai ymlaen i lefel nesaf eich cwrs neu symud ymlaen i Brifysgol neu gyflogaeth. Byddwch cystal â chymryd y cyfle i gofrestru a chymryd rhan yn ein digwyddiadau a sesiynau Llwybrau’r Dyfodol sy’n digwydd yr wythnos hon. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://bit.ly/3w9ML3N
Os ydych yn credu ein bod wedi gwneud camgymeriad yn y modd rydym wedi penderfynu eich gradd, yna mae modd i chi apelio ynghylch eich canlyniadau amodol.
Sut i apelio.
1. Gofynnwch i weld eich cofnod penderfynu
I ofyn am hyn, rhaid i chi e-bostio appeals@merthyr.ac.uk o fewn 48 awr o dderbyn eich Graddau wedi’u Pennu mewn Canolfannau. Sylwch mai’r terfyn amser llwyr ar gyfer cyflwyno’r cais hwn fydd dydd Gwener 18 Mehefin i roi cyfle i unrhyw ddysgwyr sydd wedi methu gweld eich e-bost ac wedi gorfod aros i dderbyn copi o’ch graddau drwy gyfrwng eich llythyr a gofnodwyd.
1. Cais am adolygiad
Os, ar ôl gweld eich cofnod penderfynu, rydych yn parhau’n dymuno apelio, llanwch y ‘ffurflen gais am adolygiad’ yma.
Ar y ffurflen hon, bydd angen i chi gynnwys y rheswm y credwch fod camgymeriad wedi’i wneud gyda’ch gradd amodol. Sylwch fod angen llanw’r ffurflen yma o fewn 5 diwrnod gwaith o dderbyn eich Cofnod Penderfynu, a dim hwyrach na dydd Gwener 25 Mehefin.
1. Bydd y coleg yn penodi swyddog ymchwilio sy’n annibynnol o’r broses CDG i ymchwilio i’ch cais am apêl. Os bydd camgymeriad yn cael ei ganfod, mae’n bosibl y bydd y radd amodol yn aros fel yr oedd, yn mynd i lawr neu i fyny. Os bydd camgymeriad yn cael ei ganfod, nid yw’n golygu o reidrwydd y bydd y radd yn cael ei newid gan na fydd y camgymeriad o bosib yn ddigonol i newid y radd.
Os bydd newid gradd yn sgil yr adolygiad, byddwn yn hysbysu CBAC a byddant hwy’n cywiro’r radd.
Byddwn yn eich hysbysu’n ysgrifenedig am ein penderfyniad yn dilyn adolygiad. Bydd y wybodaeth ganlynol yn cael ei chynnwys:
Cam 2: Apêl i CBAC
Byddwch yn derbyn eich graddau terfynol ar ddyddiau a ddynodwyd ar gyfer canlyniadau – dydd Mawrth 10 Awst ar gyfer cymwysterau AS/A2 neu ddydd Iau 12 Awst ar gyfer TGAU a Lefel 2 Gofal Plant / Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Os ydych yn dal i feddwl bod camgymeriad yn eich gradd, gallwch ystyried cyflwyno apêl i CBAC. Mae mwy o fanylion am hyn ar gael yma: https://bit.ly/3x7fXIM. Gellir ond cyflwyno’r apêl yma i CBAC ar ôl diwrnod y canlyniadau. Sylwch hefyd y gall canlyniad eich apêl olygu y bydd eich gradd yn aros fel yr oedd, neu yn mynd i fyny neu i lawr.
Os hoffech unrhyw wybodaeth neu eglurhad ychwanegol am yr uchod, byddwn yn cynnal nifer o sesiynau cynghori a chanllawiau yn ystod yr wythnos. I archebu i fod yn rhan o un o’r sesiynau hyn, defnyddiwch y dolenni isod:
Dydd Mawrth 15 Mehefin am 9yb – Camau nesaf ar ôl eich Graddau wedi’u Pennu mewn Canolfannau a phroses apelio, help a chanllawiau – rhithiol – ARCHEBWCH YMA
Dydd Mercher 16 Mehefin am 9yb – Proses apelio, help a chanllawiau - rhithiol – ARCHEBWCH YMA
Yn ogystal, bydd ein timau derbyniadau a chymorth i ddysgwyr ar gael drwy gydol yr wythnos i gynnig unrhyw help, cymorth a chanllawiau y byddwch eu hangen ar gyfer eich camau nesaf.
Yn olaf, os ydych yn ddysgwr blwyddyn 2 sy’n ein gadael i fynd i brifysgol neu gyflogaeth, peidiwch ag anghofio cofrestru fel un o alumni’r coleg yma: https://networks.futurefirst.org.uk/register/merthyr
Pob Lwc ac rydym yn dymuno’r gorau i chi am y cam nesaf ar eich taith addysgol neu yrfaol!
Gwybodaeth allweddol
Summer Assessments 2021 - Gwybodaeth allweddol i ddysgwyr TGAU, AS a lefel A
Polisi Canolog am asesu a phrosesau sicrhau ansawdd ar gyfer haf 2021
NEWYDD! Cymwysterau Cymru – Canllawiau apelio ar gyfer Graddau wedi’u Pennu mewn Canolfannau – ar gyfer dysgwyr, rhieni a gofalwyr - Saesneg
NEWYDD! Cymwysterau Cymru – Canllawiau apelio ar gyfer Graddau wedi’u Pennu mewn Canolfannau – ar gyfer dysgwyr, rhieni a gofalwyr - Cymraeg