Bwriad Diploma Dinas ac Urddau Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau yw rhoi ymwybyddiaeth drylwyr i chi o holl brif systemau gweithredu cerbyd ysgafn.
TGAU graddau D-F mewn Saesneg, Mathemateg a phwnc sy'n seiliedig ar Wyddoniaeth
Cewch gyfle i ddatblygu dealltwriaeth o'r gweithdrefnau cynnal a chadw sylfaenol sydd eu hangen i wasanaethu a thrwsio systemau cerbydau. Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu eich sgiliau ar amrywiaeth o gerbydau yn ein gweithdai cerbydau modur rhagorol. Fel rhan o'ch rhaglen astudio byddwch hefyd yn mynychu gwersi tiwtora ac yn datblygu eich sgiliau Saesneg a Mathemateg ymhellach.
Asesiadau ymarferol a phortffolio o dystiolaeth
Dilyniant i Ddiploma Lefel 2 IMI neu NVQ2 naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser (os yw mewn hyfforddiant neu gyflogaeth).
04 Medi 2023 - 31 Gorffennaf 2024