Cwrs blwyddyn llawn amser ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno paratoi ar gyfer Mynediad i Addysg Uwch, unrhyw gwrs Lefel 3 neu Lefel A ond nad oes ganddynt y cymwysterau gofynnol. Mae'r cwrs wedi'i strwythuro i ddiwallu anghenion unigol ac mae pwyslais cryf ar y sgiliau craidd gan gynnwys cyfathrebu a rhifedd. Cyflwynir dysgwyr i ystod o feysydd pwnc academaidd sy'n gysylltiedig â'r rhaglenni gofal iechyd; mae'r rhain yn cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, bioleg, seicoleg a chymdeithaseg. Bydd y cwrs yn adeiladu ar eich profiadau personol ac anogir y dysgwyr i gymryd rhan ac ennill profiad gwirfoddol. Mae'r asesu drwy aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau a thasgau sy'n seiliedig ar grwpiau.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol. Caiff pob darpar fyfyriwr ei gyfweld a'i asesu cyn cael cynnig lle.
Cyflwynir dysgwyr i ystod o feysydd pwnc academaidd sy'n gysylltiedig â'r rhaglenni gofal iechyd; mae'r rhain yn cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, bioleg, seicoleg a chymdeithaseg. Bydd y cwrs yn adeiladu ar eich profiadau personol ac anogir y dysgwyr i gymryd rhan ac ennill profiad gwirfoddol. Mae'r asesu drwy aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau a thasgau sy'n seiliedig ar grwpiau.
Aseiniadau ysgrifenedig, arholiadau, cyflwyniadau, gweithgareddau ymarferol
Bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i fynd ymlaen i amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys mynediad i addysg uwch, iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant. Oherwydd y byddwch yn dychwelyd i ddysgu yn y coleg, rhaid i chi fod yn barod i neilltuo amser ar gyfer astudio preifat drwy gydol y cwrs, ar ben eich amser yn y coleg.
04 Medi 2023 - 31 Gorffennaf 2024