Mae'r cymhwyster hwn yn caniatáu i'r dysgwr feithrin gwybodaeth a sgiliau crefft gosod trydanol. Nid oes angen tystiolaeth alwedigaethol o'r gweithle, felly mae'n addas ar gyfer dysgwyr nad ydynt yn gweithio yn y Diwydiant trydanol ar hyn o bryd (ond a allai ddymuno gwneud hynny). Mae'r cymhwyster wedi'i addasu o ddiploma'r FfCCh o fewn y fframwaith Prentisiaethau; felly'n hwyluso dilyniant i'r cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant. Bydd yn rhoi cyfle i'r dysgwr ymarfer a chael ei asesu mewn amgylchedd diogel ar osod systemau gwifrau ynghyd â theori berthnasol gosodiad trydanol. Mae'r dysgwr yn cael cyfle i ddefnyddio'r Canllaw Ar-Safle IET gyda rhai o'r unedau a hefyd i gaffael gwybodaeth am wyddoniaeth ac egwyddorion trydanol..
Y gofynion mynediad yw 4 TGAU gradd C neu uwch (gan gynnwys Saesneg a Mathemateg) neu gymhwyster Trydanol lefel 1 addas. Rhaid i chi allu dangos presenoldeb o 90% yn ystod eich cwrs astudio
Mae'r cymhwyster hwn yn caniatáu i'r dysgwr feithrin gwybodaeth a sgiliau crefft gosod trydanol. Nid oes angen tystiolaeth alwedigaethol o'r gweithle, felly mae'n addas ar gyfer dysgwyr nad ydynt yn gweithio yn y diwydiant trydanol ar hyn o bryd (ond a allai ddymuno gwneud hynny).
Cyfuniad o asesiadau ymarferol a asesir yn allanol (arholiadau) ac a osodir yn allanol ac a farciwyd yn fewnol.
Er nad yw'r cymhwyster hwn yn anelu at wneud ymgeiswyr yn drydanwyr â chymwysterau llawn mae'n galluogi dysgwyr i ddatblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn gosodiadau trydanol neu beirianneg drydanol. Mae'n addas i'r rhai sydd am symud ymlaen i raglen Prentisiaeth Electrodechnegol.
04 Medi 2023 - 31 Gorffennaf 2024