Cafodd £19m ei ddyrannu i’r cynllun Uwchsgilio@Waith. Ar hyn o bryd, bydd Coleg Gwent, Coleg Y Cymoedd, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Y Coleg Merthyr Tudful, Coleg Caerdydd a’r Fro a Grŵp Colegau NPTC yn gallu cynnig hyfforddiant 100% cymorthdaledig i gyflogwyr tan fis Mawrth 2022. Wedi hynny bydd yn dychwelyd i gost ar raddfa ostyngol i’r cyflogwr.
Bydd colegau’n cydweithio’n agos gyda chyflogwyr i asesu eu hanghenion hyfforddi a nodi’r cyrsiau a fyddai orau’n bodloni’r amcanion hyfforddi hyn. Bwriad y cynllun yw cynnig hyfforddiant ar adeg ac mewn lleoliad sy’n addas i’r cyflogwr os yn bosib, naill ai yn un o’r Colegau perthnasol neu yn y gweithle.
Y Sector Addysg Bellach yn Ymateb i Argyfwng COVID gyda Hyfforddiant Cymorthdaledig Llawn i Gyflogwyr
Mewn ymateb i effaith llethol COVID-19 ar les economaidd Cymru, mae’r Coleg Merthyr Tudful wedi ymuno â WEFO (Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru) i ddatblygu pecyn o gymorth i helpu a chynorthwyo busnesau yn y cyfnod hwn.
Gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, gallwn nawr gynnig hyfforddiant a datblygu achrededig i fusnesau lleol ar gyfer eu staff, yn amrywio o Lefel 1 – 7 sydd yn 100% gymorthdaledig.
Rydym yn hynod falch o allu cyhoeddi fod yr hyfforddiant hwn ar gael ar unwaith i gwmnïau cymwys, a disgwylir iddo barhau tan fis Mawrth 2022. Yn eu plith mae sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector o unrhyw faint, gyda chanolfan yng Nghymru, sydd heb eisoes dderbyn mwy na 200,000 Ewro mewn cymorth gwladwriaethol de minimis dros y 3 blynedd gyllidol ddiwethaf.
Rhaid i’r hyfforddiant fod yn gymhwyster cymeradwy ac achrededig ac yn cynnwys amrywiaeth o gymwysterau ar sail cymhwysedd ac yn gysylltiedig â gwaith ar gyfer pob sector busnes.
Mae pob cwrs achrededig yn derbyn cymhorthdal 100% tan fis Mawrth 2022! Gallwn gynnig cymwysterau o Lefel 1 – 7, ar draws amrywiaeth eang o sectorau diwydiant, megis:
Peirianneg
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gwaith Chwarae
Arweinyddiaeth a Rheoli ILM
Gweinyddiaeth Busnes
Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Addysg
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth
Ffôn: 07805674672 E-bost: h.lloyd@merthyr.ac.uk