Gwibio i'r prif gynnwys

Chris yw Pennaeth Menter a Sgiliau yma yn y Coleg, gan ddefnyddio ei rhwydwaith a’i harbenigedd eang i helpu myfyrwyr ac alumni i ddechrau eu busnesau eu hunain. Mae Chris yn frwdfrydig iawn ynghylch entrepreneuriaeth ac mae’n cynnig cymorth 1-1 parhaol i fusnesau newydd sy’n dechrau.

Mae Chris hefyd yn cydgysylltu ceisiadau i Gystadlaethau Sgiliau’r DU a’r Byd, pan fydd dysgwyr yn gosod eu gwybodaeth, eu gallu technegol a’u sgiliau cyflogadwyedd yn erbyn eraill o Gymru, y DU a thu hwnt!

Os hoffech chi ddechrau eich busnes eich hun, archwilio syniadau menter, cymryd rhan mewn cystadleuaeth sgiliau neu ddarganfod os yw’ch adran yn ymwneud â phrosiectau – cysylltwch â Chris! c.bissex@merthyr.ac.uk

Mae Verity yma i gynnig arweiniad cyflogadwyedd a gyrfaoedd, gan ddangos amrywiaeth o gyfleoedd  cynnydd. Mae pob llwybr gyrfa yn wahanol, felly mae cynnig cymorth unigol pwrpasol yn allweddol i sicrhau bod pob dysgwr yn cael gafael ar sgiliau a chyfleoedd. Mae’r cysylltiadau helaeth gyda chyflogwyr lleol, darparwyr prentisiaethau a phrifysgolion oll yn ychwanegu at helaethrwydd y cyfleoedd y gallwn gynnig. Os ydych angen help i gynllunio eich dyfodol, creu CV eithriadol, ysgrifennu llythyr eglurhaol, gwneud cais am swydd neu ymarfer ar gyfer cyfweliad- gall Verity helpu! v.jones@merthyr.ac.uk 

Mae Hannah yn rhoi cymorth i bob agwedd o Fenter a Chyflogadwyedd- cydlynu digwyddiadau a chystadlaethau, cysylltu gyda chyflogwyr a phartneriaid lleol, a sicrhau bod staff a dysgwyr yn cael gafael ar y cyfleoedd diweddaraf.

Mae cystadlaethau sgiliau’n help i ysbrydoli pobl ifanc i fod yn uchelgeisiol wrth fynd ar drywydd eu nod ac  yn help i ddatblygu CV eang ac amrywiol. Os hoffech wybod mwy am ddatblygu eich sgiliau- cysylltwch â Hannah! h.casey@merthyr.ac.uk 

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite