Prif bwyntiau
Os oes gennych chi symptomau COVID-19, dylech hunanynysu a threfnu prawf PCR
cyn gynted â phosibl. Os ydych wedi profi'n bositif am COVID-19, rhaid i chi
hunanynysu a dilyn y canllawiau isod.
Gallwch roi’r gorau i hunanynysu ar ôl 7 diwrnod llawn (ar ddiwrnod 8 eich cyfnod o
hunanynysu). Dylech wneud prawf llif unffordd (LFT) ar ddiwrnod 6 eich cyfnod o
hunanynysu a phrawf llif unffordd arall 24 awr yn ddiweddarach. Gwnewch hyn i
wirio a ydych yn parhau i fod yn heintus ac y gallech drosglwyddo COVID-19 i eraill.
Ni ddylech wneud prawf llif unffordd cyn y chweched diwrnod o’ch cyfnod
hunanynysu oherwydd mae’r risg o barhau i fod yn heintus a’r posibilrwydd o
drosglwyddo’r feirws i eraill cyn y cyfnod hwn yn sylweddol uwch.
Os ydych wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif am
COVID-19, dylech ddilyn y canllawiau hyn. Os nad ydych wedi'ch brechu'n llawn,
mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi hunanynysu fel cyswllt agos am 10 diwrnod.
Os ydych yn gyswllt agos, bydd y rheolau hunanynysu a pha brofion y dylech eu
cymryd yn dibynnu ar y canlynol
eich statws brechu covid-19
eich oedran
eich swydd