Gwibio i'r prif gynnwys
Cymorth a Chanllawiau UCAS

Os ydych yn awyddus i symud ymlaen i brifysgol, rydym yn cynnig rhaglen gymorth wedi’i haddasu i’ch helpu ar y ffordd. Mae’n cynnwys y canlynol:

  • Cydgysylltwyr pwrpasol UCAS yn y coleg i’ch arwain bob cam o’r ffordd drwy broses UCAS.
  • Help a chymorth i ddatblygu eich datganiadau personol (yn cynnwys sesiynau a gynhelir gan brifysgolion blaenllaw).
  • Rhaglen o gymorth ar gyfer cyfweliadau, yn cynnwys cyfweliadau ffug gyda Phrifathro’r coleg.
  • Amrywiaeth gyflawn o weithgareddau menter i’ch helpu i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy, meithrin eich hyder a chael profiad o sefyllfaoedd busnes gwirioneddol.
  • Digwyddiad Blynyddol Llwybrau Gyrfa’r Coleg i’ch galluogi i siarad â chyflogwyr a phrifysgolion am opsiynau gyrfa ac addysg uwch.
  • Rhaglen o ddigwyddiadau, sesiynau cyngor a chanllawiau wedi’u haddasu, yn cynnwys y canlynol,

o   Diwrnodau cynllunio gyrfa

o   Sesiynau holi ac ateb byw gyda Chydgysylltwyr UCAS 

o   Digwyddiadau gwybodaeth am wneud cais i Brifysgol i ddysgwyr a rhieni 

o   Mynd i Arddangosfa flynyddol UCAS 

o   Sesiynau cyngor a chanllawiau penodol wedi’u cynnal gan brifysgolion allweddol lleol, rhanbarthol ac o’r DU, e.e. cyllido myfyrwyr, y broses gwneud cais ac ati.  

Am fwy o gyngor a gwybodaeth, cysylltwch â’n Cydgysylltwyr UCAS penodol:

Chris Lloyd: c.lloyd@merthyr.ac.uk 

Bethan Williams: bwilliams1@merthyr.ac.uk 

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite