Diploma Estynedig BTEC mewn Ffilm a Theledu & WBQ

Lefel: 3

Hyd: Llawn Amser 2

Mynediad:
Fel arfer bydd yn rhaid i chi feddu ar un o’r canlynol o leiaf:
• Pedwar TGAU gradd C neu uwch
• Diploma Cyntaf BTEC
• Bydd myfyrwyr aeddfed nad oes ganddynt y cymwysterau hyn, ond sydd â phrofiad neu ddiddordeb mewn ffilm a theledu yn cael eu cyfweld.

Cwrs:
Mae’r Diploma Cenedlaethol mewn Ffilm a Theledu yn gymhwyster galwedigaethol arbenigol i bobl sy’n dymuno ymuno â diwydiant y cyfryngau. Mae’r unedau a astudir yn cynnwys technoleg fideo a golygu; recordio sain; cynhyrchu hysbysebion;
sgriptio a chynhyrchu drama. Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o weithdai, sgriniadau a sesiynau dosbarth. Mae gan y coleg ystod dda o gyfarpar cynhyrchu a golygu o safon broffesiynol. Asesir y cwrs drwy gynhyrchu fideo ymarferol a phortffolios. Ar gwblhau’r cwrs bydd gennych gyfle i symud ymlaen i addysg uwch, neu geisio cyflogaeth yn niwydiant y cyfryngau. Ochr yn ochr â’r cymhwyster hwn byddwch yn ymgymryd â Diploma Craidd. Bagloriaeth Cymru

Gwybodaeth bellach a Sut i wneud cais:
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu gwblhau ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.