Lefel: 3
Hyd: Llawn-amser 2 flynedd – 19 awr yr wythnos.
Gofynion Mynediad: 4 TGAU graddau A-C. Mynediad drwy gyfweliad; rhaid i fyfyrwyr fod â gallu rhesymol mewn chwaraeon.
Disgrifiad o’r Cwrs: Mae’r cwrs yn rhoi sylfaen drwyadl mewn agweddau o Ddatblygu Chwaraeon a Ffitrwydd gyda phwyslais cryf ar hyfforddi. Mae llawer o’r gwaith yn ymarferol ac mae ymweliadau rheolaidd i gyfleusterau chwaraeon.
Beth fyddwch yn ei Astudio: Chwaraeon mewn Cymdeithas, Ymarferydd Adfyfyriol, Moeseg, Iechyd a Diogelwch, y Corff ar Waith, Maeth, Profion Ffitrwydd, Hyfforddiant a Ffitrwydd, Datblygu Chwaraeon, Chwaraeon Ymarferol (tîm), Poblogaethau Arbennig, Profiad Gwaith drwy NVQ Chwaraeon a Hamdden (Arweinyddiaeth Gweithgaredd) Lefel 2, Cymorth Cyntaf Argyfwng a Cymorth Cyntaf yn y Gwaith, Dyfarniad Arweinydd Chwaraeon Cymunedol, Dyfarniad Arweinwyr Chwaraeon Uwch, Dyfarniad Hyfforddi Codi Pwysau Cymru, Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu, Rhif, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gwella eich Dysgu Eich Hun, Datrys Problemau a Gweithio gydag Eraill. Cyfleoedd i ennill cymwysterau hyfforddi a gweithio’n wirfoddol yn y gymuned. Cyfle i ymuno yn Academi Pêl-droed y Coleg.
Ar ôl Gorffen / Llwybrau Gyrfa: Bydd myfyrwyr yn ennill cyfwerth â lefel 2. Mae’r cwrs yn rhoi’r wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i fyfyrwyr sy’n dymuno cael gyrfa mewn perfformiad chwaraeon a hyfforddi yn ogystal â’r gwasanaethau lifrai. Byddai pas, teilyngdod neu glod ar y cwrs hwn yn galluogi myfyrwyr i symud wedyn i Addysg Uwch mewn prifysgol neu’r cwrs HNC/D o fewn y coleg.
Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais: Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.

