BTEC Tystysgrif Genedlaethol mewn Gwasanaethau Cyhoeddus

Lefel: 3

Hyd: Llawn-amser 2 Flwyddyn – 19awr yr wythnos

Gofynion Mynediad:
4 TGAU gradd A-C neu’r BTEC Diploma cyfwerth. Caiff pob myfyriwr sy’n gwneud cais am y cwrs eu cyfweld gan diwtor y cwrs.

Disgrifiad o’r Cwrs:
Cynlluniwyd y cwrs ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno cael gyrfa yn y gwasanaethau lifrai. Mae’n rhoi sgiliau a gwybodaeth berthnasol i gyflogaeth yng ngwasanaethau’r Heddlu, Tân, Carchardai ac Arfog.

Beth fyddwch yn ei Astudio:
Mae’r unedau’n cynnwys: – Y Gyfraith a’r System Gyfreithiol, Arweinyddiaeth, Dinasyddiaeth a Materion Cyfoes, Paratoadau Corfforol y Gwasanaethau Lifrai ar gyfer y Gwasanaethau Cyhoeddus, Sgiliau Alldaith, Deall Disgyblaeth, Delio gyda Damweiniau, Gwaith Tîm yn y Gwasanaethau Cyhoeddus, Iechyd a Ffitrwydd, Troseddeg.
Ynghyd â’r cymhwyster yma byddwch yn dilyn Diploma Greiddiol Uwch Bagloriaeth Cymru. Caiff myfyrwyr sy’n llwyddo i ennill y cymhwyster Uwch achrediad o 120 pwynt UCAS.

Ar ôl Gorffen / Llwybrau Gyrfa:
Byddai pas, teilyngdod neu glod yn galluogi myfyrwyr i symud ymlaen i gwrs addysg uwch neu wneud cais am gyflogaeth yn y sector gwasanaeth cyhoeddus.

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.