Lefel: 4
Cod UCAS: CXC6
Hyd: Rhan-amser 2 flynedd
Gofynion Mynediad: Drwy gyfweliad.
Disgrifiad o’r Cwrs:
Mae’r rhaglen Gradd Sylfaen yn anelu i ddatblygu myfyrwyr sydd â sgiliau, gwybodaeth a phrofiad i ymuno â’r gweithlu gweithgaredd corfforol i weithio gyda chymunedau gydag anghenion corfforol amrywiol yn arbennig mewn hybu iechyd a chynlluniau gweithgaredd corfforol awdurdodau lleol. Mewn partneriaeth gyda chyflogwyr lleol, mae’r rhaglen yn rhoi cyfleoedd dysgu rhagorol seiliedig ar waith i fyfyrwyr ennill cefndir gwyddonol cadarn mewn iechyd, ymarfer a ffitrwydd ynghyd â’r gallu i roi cysyniadau damcaniaethol ar waith mewn sefyllfa glinigol.
Beth fyddwch yn ei Astudio:
Cynlluniwyd y cwrs ar gyfer rhai sydd wedi gadael yr ysgol yn 18 oed neu ymgeiswyr aeddfed sy’n gweithio yn y diwydiant yn dymuno cael cymwysterau addysg uwch neu fyfyrwyr sy’n dymuno newid gyrfa. Dylai myfyrwyr sy’n dymuno gwneud cais fod â llawer o ddiddordeb mewn ymyriadau gweithgaredd corfforol a gweithio yn y gymuned gyda grwpiau poblogaeth amrywiol.
Bydd y Radd Sylfaen yn anelu i gynnwys y modiwlau cwrs dilynol:
Anatomeg Swyddogaethol a Ffisioleg Ymarfer, Profi Ffitrwydd a Rhagnodi Ymarfer, Maeth ar gyfer Iechyd ac Ymarfer, Ymarfer ar gyfer Poblogaethau Arbennig, Entrepreneuriaeth, Manteision Chwaraeon ac Ymarfer mewn Cymdeithas, Seicoleg Ymarfer, Anafiadau Chwaraeon ac Adferiad, Egwyddorion ac Ymarfer Rhaglenni Ymarfer a Rheoli Ffitrwydd.
Modiwlau/Unedau Seiliedig ar Waith:
Cynllunio a Gweithredu Ystafell Ffitrwydd, Deddfwriaeth o fewn Ymarfer, Iechyd a Chwaraeon, Rhagnodi Ymarfer, Rhaglennu Ymarfer, Dadansoddiad Beirniadol o Berfformiad Gweithlu, Cydrannau Iechyd, Lles a Ffitrwydd, Manteision Gweithgaredd Corfforol ac Addasiadau Swyddogaethol, Gosod Nodau a Chynllunio Gweithredu, Cynllunio a Datblygiadau Busnes a Hyrwyddo Ymarfer.
Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
Gall ymgeiswyr llwyddiannus sy’n ennill sgorau credyd addas drosglwyddo i’r rhaglen radd lawn ym Mhrifysgol Morgannwg.
Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.


