ITQ (Defnyddwr Technoleg Gwybodaeth)

Lefel: 1

Hyd: Llawn-amser 1 flwyddyn

Gofynion Mynediad:
Caiff pob dysgwr eu hasesu a’u cyfweld cyn eu derbyn ar y cwrs.

Disgrifiad o’r Cwrs:
Mae’r cwrs lefel 1 yma yn ymarferol gan bennaf a byddai’n addas ar gyfer dysgwyr sy’n well ganddynt ddull mwy ‘dwylo ymlaen’. Fe’i cynlluniwyd ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau gweithio o fewn amgylchedd cyfrifiadureg masnachol neu rai sydd angen iddynt gynyddu eu sgiliau cyn symud i gwrs lefel 2.

Mae llythrennedd a rhifedd yn bwysig i bob gweithiwr ym maes technoleg gwybodaeth, ac felly mae’r sgiliau hyn yn ffurfio rhan bwysig o’r cwrs.

Beth fyddwch yn ei Astudio:
Caledwedd a meddalwedd technoleg gwybodaeth, graffeg dylunio, meddalwedd sleidiau cyflwyniad, cyhoeddi bwrdd gwaith, cronfeydd data, prosesu geiriau, rhyngrwyd ac e-bost.

Dulliau asesu: Caiff ymgeiswyr eu hasesu drwy dystiolaeth portffolio. Nid oes arholiadau.

Ar ôl Gorffen / Llwybrau Gyrfa:
Bydd ymgeiswyr sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn ennill cymhwyster Diploma Technoleg Gwybodaeth ITQ ac efallai y gallant symud ymlaen i Lefel 2 BTEC Diploma Gyntaf mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.