HNC mewn Cyfrifiadureg

Nid oes Cod UCAS Code yn gweithredu’n uniongyrchol i’r Coleg

Lefel: 4

Hyd: L2 flynedd, 8 awr yr wythnos – 2 fin nos, 5pm i 9pm

Gofynion Mynediad:
Croesewir myfyrwyr aeddfed ar y cwrs. Rhoddwn ystyriaeth i ddysgu blaenorol, dysgu seiliedig ar waith ac uchelgais gyrfa ymgeiswyr. BTEC Diploma Genedlaethol mewn pwnc perthnasol, GNVQ Uwch/AVCE mewn pwnc perthnasol neu ddau bwnc Lefel A, o leiaf un mewn pwnc perthnasol. Dylai ymgeiswyr hefyd fod ag o leiaf 4 pwnc TGAU yn cynnwys mathemateg ar radd C neu uwch.

Disgrifiad o’r Cwrs:
Mae’r cwrs hwn ar ffransais gan Brifysgol Arbennig ac fe’i hanelwyd at bobl sy’n dymuno cael gyrfaoedd mewn Cyfrifiadureg, Technoleg Gwybodaeth, a Chefnogaeth Defnyddwyr neu rai sy’n dymuno parhau gyda’u haddysg ar lefel Addysg Uwch. Mae’r flwyddyn gyntaf yn rhoi rhaglen eang o astudiaeth i fyfyrwyr sy’n dymuno gwella eu sgiliau mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. Mae’r cwrs yn rhoi rhaglen o astudiaeth gytbwys ar gyfer myfyrwyr cyfrifiadureg a thechnoleg gwybodaeth a bydd yn gwella eich rhagolygon p’un ai ydych yn dewis gweithio yn y diwydiant cyfrifiadureg neu mewn cyd-destunau eraill.

Beth fyddwch yn ei Astudio:
Mae’r cwrs dwy flynedd yn cynnwys y modiwlau dilynol. Mae cyfuniad o ddarlithoedd a gwaith ymarferol a gyflwynir mewn ystafelloedd cyfrifiaduron arbennig.
Blwyddyn 1: Datblygu cymwysiadau rhyngrwyd, Datblygu systemau gwybodaeth, Datblygiad proffesiynol a sgiliau busnes, Cyflwyniad i raglennu gweledol.
Blwyddyn 2: Datblygu cymwysiadau cyfoethog, Systemau cyfrifiadur a dylunio rhwydwaith, Dadansoddi a dylunio systemau gwybodaeth, Datrys problemau ar gyfer cyfrifiadureg.

Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
Gall dilyniant academaidd fod i HND mewn Cyfrifiadureg neu i Radd mewn Cyfrifiadureg neu ddisgyblaethau eraill. Mae cyfleoedd gyrfa yn y sector cyhoeddus, diwydiannau a mentrau preifat eraill.

Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.