Lefel: 2
Hyd:Rhan-amser 1 flwyddyn – 2 awr yr wythnos (BCS rhan 1 a rhan 2 ar gael).
Gofynion Mynediad:
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol. Caiff myfyrwyr aeddfed eu hystyried yn unigol.
Disgrifiad o’r Cwrs:
Mae’r ECDL yn ardystio fod gan y deiliad wybodaeth o gysyniadau sylfaenol technoleg gwybodaeth ac yn medru defnyddio cyfrifiadur personol a rhaglenni cyfrifiadur cyffredin ar lefel sylfaenol o gymhwysedd.
Prif nod y rhaglen ECDL yw gwella lefel gwybodaeth sylfaenol am dechnoleg gwybodaeth a lefel uwch o gymhwysedd sylfaenol mewn defnyddio cyfrifiaduron personol a rhaglenni cyfrifiadur cyffredin ledled Ewrop ac yn rhyngwladol.
Mae’n dystysgrif a dderbynnir yn rhyngwladol. Gall technoleg gwybodaeth symleiddio gweithdrefnau cyflogaeth a sicrhau’r cyflogydd fod gan ymgeiswyr a staff y lefel angenrheidiol o wybodaeth a chymhwysedd i ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadur cyffredin. Mae’r ECDL yn dystysgrif o wybodaeth a chymhwysedd a brofwyd ac mae’n seiliedig ar un maes llafur a gytunwyd.
Mae sgiliau cyfrifiadur yn gynyddol bwysig heddiw i bobl o bob cefndir. Mae’r ECDL yn dystysgrif technoleg gwybodaeth ar gyfer pob dinesydd. Fe’i bwriedir ar gyfer y rhai sydd angen iddynt, neu sy’n dymuno, gwybod sut i ddefnyddio cyfrifiadur personol. Mae’n addas ar gyfer pobl o bob disgyblaeth gwaith, ar gyfer pobl yn ymuno â’r farchnad swyddi, ac ar gyfer pob oedran.
Beth fyddwch yn ei Astudio:
BCS rhan 1: Mae’r cwrs hwn yn dangos cysyniadau sylfaenol technoleg gwybodaeth a sut i ddefnyddio cyfrifiadur personol. I ennill y cymhwyster, bydd y myfyriwr yn cwblhau 4 modiwl: Cysyniadau Sylfaenol Technoleg Gwybodaeth, Defnyddio Cyfrifiaduron, Prosesu Geiriau, Taenlenni.
BCS rhan 2:
Mae’r cwrs hwn yn adeiladu ar y cysyniadau a ddysgwyd yn rhan 1. I ennill y cymhwyster bydd y myfyriwr yn cwblhau tri modiwl: Cronfa Ddata, Cyflwyniad, Gwybodaeth a Chyfathrebu.
Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
Gall myfyrwyr symud ymlaen yn y maes.
Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.

