Lefel: 1
Hyd: Rhan-amser 1 flwyddyn – 2 awr yr wythnos
Gofynion Mynediad:
Disgwylir i fyfyrwyr gael tystysgrif CLAIT neu gyfwerth.
Disgrifiad o’r Cwrs:
Mae’r cwrs yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i ddefnyddio pecynnau busnes ar gyfer defnyddwyr cartref, ysgol a swyddfa. Bydd y cwrs o fudd i rai heb unrhyw wybodaeth o gyfrifiaduron, yn ogystal â rhai sydd eisoes â rhai sgiliau, ond sy’n dymuno ehangu eu profiad. Yr unedau a gaiff eu hastudio yw: Defnyddio Cyfrifiadur, Prosesu Geiriau, Taenlenni, Cronfeydd Data, Graffeg Cyflwyniad.
Beth fyddwch yn ei Astudio:
Nod y cynllun yw asesu sgiliau technoleg gwybodaeth mewn ffordd ymarferol. Mae hefyd yn profi, drwy ddogfennau ffynhonnell, allu’r myfyriwr i ddewis data perthnasol o ddogfennau busnes. Mae pum Elfen Ardystiad ac maent yn ddull o gofnodi datganiadau cadarnhaol o gymhwysedd sy’n ffurfio’r datganiadau a gaiff eu hargraffu ar dystysgrif y myfyriwr. Elfennau’r asesiad yw: 1. Graffeg Cyflwyniad 2. Dylunio Pen Desg 3. E-bost a Rhyngrwyd 4. Celf Gyfrifiadurol 5. Taenlenni.
I ennill y dystysgrif lawn mae’n rhaid i fyfyrwyr basio pob un o’r 5 elfen a restrir uchod. Os nad yw’r myfyrwyr yn pasio pob un o’r pum elfen byddant yn cael Tystysgrif Proffil yn rhestru’r elfennau lle maent wedi dangos cymhwysedd.
Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
Mae dilyniant o’r cwrs hwn i’r cwrs OCR Clait sy’n cynnwys defnyddio’r tri phrif gymhwysiad ynghyd ag e-bost a phecyn cyflwyniad. Nod y cwrs yw cynhyrchu dogfennau ffynhonnell a dogfennau gwybodaeth busnes atodol a chyflwyniad awtomedig.
Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.

