BTEC Diploma Genedlaethol ar gyfer Ymarferwyr Technoleg Gwybodaeth

Lefel: 3

Hyd: Llawn-amser 1 flwyddyn – 21 awr yr wythnos

Gofynion Mynediad:
BTEC Dyfarniad Cyntaf neu Ddiploma Gyntaf mewn pwnc cysylltiedig; GNVQ Canolraddol mewn pwnc cysylltiedig: o leiaf 4 TGAU gradd C neu uwch.

Disgrifiad o’r Cwrs:
Anelwyd y cwrs hwn yn bennaf at ymadawyr ysgol sy’n dymuno cael gyrfa ym meysydd Cyfrifiadureg a Thechnoleg Gwybodaeth. Mae hwn yn faes llafur newydd a ddiweddarwyd i adlewyrchu byd newidiol cyfrifiadureg. Mae’r cwrs yn anelu i gwmpasu ystod eang o feysydd, gan roi dewis eang o opsiynau i fyfyrwyr o fewn y gweithle ac addysg uwch. Mae’r cwrs yn cynnwys 18 uned yn cynnwys meysydd megis Dylunio Gwefannau, Amlgyfryngau, Cymorth Cyfrifiadurol a Rhaglennu. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith yn seiliedig ar aseiniadau i baratoi ar gyfer addysg uwch ac i efelychu amgylchedd gwaith.

Beth fyddwch yn ei Astudio:
Iaith a Chyfathrebu, Systemau Cyfrifiadur, Systemau Gwybodaeth Busnes, Cyflwyniad i Ddatblygiad Meddalwedd, Technoleg Cyfathrebu a Dadansoddi a Dylunio Systemau.

Y 4 uned o Fanc 2 yw: Prosiect Technoleg Gwybodaeth Busnes (asesir yn allanol), Datblygu Meddalwedd Cymwysiadau, Systemau Rheoli Cronfeydd Data (asesir yn allanol) a Chyfrifiadau Busnes.

Cynigir 2 uned o Fanc B ar gyfer ei hastudio o blith: Cymorth Defnyddwyr, Datblygu Gwefannau, Rhyngwyneb Cyfrifiadur Dynol, E-fasnach, Systemau Gwybodaeth Rheoli, Technoleg Amlgyfrwng, Cymwysiadau Meddalwedd a Chyfathrebu a Rhwydweithiau Data.

Mae Bagloriaeth Cymru’n cynnwys pynciau megis: Cymru, Ewrop a’r Byd, Addysg Gysylltiedig â Gwaith, Addysg Bersonol a Chymdeithasol.

Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
Mae BTEC Diplomâu Cenedlaethol yn dderbyniol gan gyflogwyr ac addysg uwch (Prifysgolion a Cholegau). Medrwch fynd i yrfa cgysylltiedig â chyfrifiadureg megis technegydd cyfrifiadur, gweithredwyr cyfrifiadur ac ati neu medrwch fynd i Brifysgol neu Goleg a chymryd HNC yn un o’r nifer fawr o bynciau cyfrifiadureg/technoleg gwybodaeth.

Ar ôl Gorffen / Llwybrau Gyrfa:
Bydd ymgeiswyr sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn ennill cymhwyster Diploma Technoleg Gwybodaeth ITQ ac efallai y gallant symud ymlaen i Lefel 2 BTEC Diploma Gyntaf mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.