Lefel: 2
Hyd: Llawn-amser 1 flwyddyn – 21 awr yr wythnos
Gofynion Mynediad:
Cyfweliad ynghyd â sgiliau allweddol mewn llythrennedd a rhifedd yn ogystal â diddordeb arbennig mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
Disgrifiad o’r Cwrs:
Anelwyd y cwrs hwn yn bennaf at ymadawyr ysgol sydd eisiau gyrfa mewn Technoleg Gwybodaeth.
Mae llythrennedd a rhifedd yn bwysig i bob gweithiwr yn y maes technoleg gwybodaeth, ac felly mae’r sgiliau hyn yn rhan bwysig o’r cwrs.
Yr hyn byddwch yn ei Astudio: Mae’r ddiploma gyntaf yn gadael i chi astudio: Defnyddiau Technoleg Gwybodaeth, Systemau Cyfrifiadur, Datblygu Gwefannau, Modelu Ariannol, Rheoli Cronfeydd Data, Graffeg Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu a Dylunio a Datblygu Meddalwedd. Gall myfyrwyr ennill sgiliau ar gyfer gweithio yn y maes astudiaeth cyffrous yma.
Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
Mae’r dyfarniad yn rhoi myfyrwyr i fynediad i lefel uwch o gwrs megis y BTEC Tystysgrif neu Ddiploma Genedlaethol.
Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.

