Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill

Mynediad:
Mae gennym ddosbarthiadau sy’n darparu ar gyfer oedolion gydag ystod o anghenion; i bobl heb unrhyw addysg ffurfiol, y rheiny sydd am wella eu cyfleoedd ar gyfer gwaith ac i bobl sydd am ennill cymhwyster ffurfiol yn Saesneg.

Mae’r ddarpariaeth yn amrywio yn dibynnu ar anghenion y myfyriwr. Mae’n amrywio o ddysgu iaith uniongyrchol i gymorth iaith yn yr amgylchedd byw a gweithio. Gall myfyrwyr ymuno ar un o dair lefel: Dechreuwyr, Canolradd neu Uwch.

Dechreuwyr
Mae hyn yn cwmpasu cyflwyniad i ddarllen, ysgrifennu, siarad a gwrando. Rhoddir
blaenoriaeth i anghenion unigol y myfyriwr.

Canolradd
Efallai bydd gan fyfyrwyr ar y lefel hon wahanol raddau o allu; er enghraifft, efallai bydd ganddynt sgiliau llafar da ond sgiliau ysgrifennu nad ydynt cystal. Nod y lefel hon yw datblygu gallu yn holl feysydd sgiliau iaith.

Uwch
Mae gan y myfyrwyr hyn lefel dda o sgiliau iaith eisoes, ond o gael eu haddysgu maent yn datblygu eu gwybodaeth ymhellach. Gall hyn gynnwys Saesneg at ddibenion busnes, sy’n baratoad gwerthfawr ar gyfer y System Profi Iaith
Saesneg Ryngwladol (IELTS) a’r Bwrdd Asesu Iaith Proffesiynol (PLAB). Mae achrediad ar gael ar bob lefel.

Cysylltu â ni:
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu gwblhau ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.