Lefel Mynediad: 1 & 2
Hyd:
Rhan-amser 1 flwyddyn – 8 awr yr wythnos
Gofynion Mynediad:
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol. Penderfynir ar fynediad pan fydd y myfyriwr yn mynychu cyfweliad ar gyfer y cwrs.
Disgrifiad o’r Cwrs:
Mae’r cwrs Sgiliau Bywyd yn rhaglen ran-amser a gynlluniwyd ar gyfer grwpiau llai o oedolion gydag anawsterau dysgu a/neu anableddau. Gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau byw annibynnol, eiriolaeth a gofal personol. Mae cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr ehangu eu gwybodaeth yn ôl eu diddordebau.
Beth fyddwch yn ei Astudio:
Mae’r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu Sgiliau Sylfaenol mewn Llythrennedd, Rhifedd a Technoleg Gwybodaeth; annog Sgiliau Cyfathrebu, codi ymwybyddiaeth o Faterion Iechyd a Diogelwch a Hylendid Personol yn ogystal â datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer Byw Annibynnol.
Ar ôl Gorffen/Llwybrau Gyrfa:
Mae pob pwnc a astudir yn lefel at gymwysterau Lefel Mynediad y Rhwydwaith Coleg Agored (OCN).
Gwybodaeth Bellach a Sut i Wneud Cais:
Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu lenwi ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.
