Lefel: Mynediad
Hyd: Blwyddyn
Mynediad: Anelir y cwrs hwn at y rhai sy’n gadael yr ysgol gydag ychydig yn unig o gymwysterau academaidd (yn amodol ar
gyfweliad). Cynnydd: Gallwch symud ymlaen i’r Cymhwyster Cenedlaethol IMI Cerbydau Modur neu VRQ/ NVQ1 ar sail lawn-amser neu ran-amser (os yn gyflogedig).
Cwrs:
Cynlluniwyd y cwrs hwn gan City and Guilds Llundain er mwyn cynnig rhaglen ymarferol o hyfforddiant cerbydau modur ar lefel sylfaenol (Lefel Mynediad 3).
Cyflwynir pob agwedd ar wasanaethu a chynnal a chadw cerbydau yn cynnwys:
• Systemau Injan
• Systemau Siasi
• Systemau Trydanol
Efallai ceir cyfle hefyd i ddatblygu sgiliau sylfaenol
yn y meysydd ychwanegol canlynol:
• Atgyweirio cyrff cerbydau
• Atgyweirio Beiciau Modur
• Prosesau Peirianneg Sylfaenol
• Ffabrigo a Weldio
Yn ganolog i’r rhaglen astudio mae’r sgiliau
sylfaenol llythrennedd a rhifedd.
ASESU
Asesir drwy gwblhau nifer o dasgau ymarferol yn llwyddiannus ynghyd ag ymatebion ysgrifenedig/llafar byr
Cysylltu â ni:
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu gwblhau ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.


