Lefel: 3
Hyd: Blwyddyn
Mynediad: Tystysgrif Genedlaethol Lefel IMI 2.
Cymhwyster Tystysgrif Genedlaethol Lefel 2 IMI.
Cynnydd: Gallwch symud ymlaen i raglenni lefel 4 y Meistr Dechnegydd Cerbydau Modur IMI a/neu’r Dystysgrif Genedlaethol Uwch mewn systemau Moduro.
Cwrs:
Ar ôl cwblhau Tystysgrif Genedlaethol Lefel 2 IMI, mae blwyddyn arall o astudio yn cynnig y cyfle i gyflawni Diploma Cenedlaethol Lefel 3 IMI. Mae Diploma Cenedlaethol IMI yn cwmpasu gofynion technegol uwch ar gyfer y diwydiant moduro
heddiw, yn cynnwys: Nodi ac atgyweirio:
• Namau ar yr injan a chydrannau
• Namau ar y system siasi
• Namau trydanol ac electroneg
Bydd y cwrs yn apelio at y rhai â diddordeb yn y diwydiant moduro ac sy’n dymuno symud i yrfa gysylltiedig neu addysg uwch. Mae’r cymhwyster hwn yn cael ei gydnabod yn gynyddol gan y diwydiant a phrifysgolion gan ei fod yn cyfuno technolegau cerbydau uwch â phynciau academaidd cymhwysol.
Cysylltu â ni:
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0800 169 3825 neu gwblhau ymholiad neu ffurflen gais ar-lein.

